Skip to main content
DIWRNOD CANLYNIADAU SAFON UG/UWCH – DYDD IAU 16 AWST 2018

Diwrnod Canlyniadau Safon UG/UWCH – Dydd Iau 16 Awst 2018

Bydd canlyniadau Safon UG a Safon Uwch TGA ar gael i’w casglu o 9am ar ddydd Iau 16 Awst (D4 yng Ngorseinon)

Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw (bydd cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol neu, os nad yw’ch cerdyn myfyriwr gyda chi, bydd trwydded gyrru neu basport yn dderbyniol) pan fyddan nhw’n casglu eu canlyniadau o’r Coleg. 

Gall myfyrwyr enwebu rhywun arall i gasglu canlyniadau ar eu rhan ond rhaid iddynt ysgrifennu llythyr sy’n nodi’r unigolyn awdurdodedig a rhaid i’r unigolyn hwnnw ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw.

Bydd unrhyw ganlyniadau sydd heb eu casglu erbyn diwedd y dydd (tua 3.30pm) yn cael eu postio i gyfeiriad cartref y myfyriwr. Yn anffodus, ni allwn e-bostio canlyniadau atoch.

Ymholiadau ar ôl y canlyniadau – bydd taflen gyda’r terfynau amser a’r ffioedd i’w gweld yn yr amlen ganlyniadau ac ar bosteri o amgylch y Coleg. Mae’r terfynau amser hyn wedi cael eu gosod gan y cyrff dyfarnu ac ni ellir eu hestyn.

Rhaid talu adeg gwneud cais am ymholiad. Am adolygiadau marcio, rhaid defnyddio sieciau. Am gopïau o bapurau, bydd arian parod neu sieciau’n cael eu derbyn. Bydd yr holl wybodaeth ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau.