Skip to main content
Georgia yn ysgrifennu adolygiad arobryn

Georgia yn ysgrifennu adolygiad arobryn

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn gyntaf yn seremoni wobrwyo adolygu llyfrau Gwobr Dylan Thomas.

Mae Georgia Fearn yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg, Llywodraethiant a Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg ar gampws Gorseinon yn ogystal â dilyn rhaglen HE+ ac roedd rhaid iddi ddewis un o'r nofelau ar y rhestr fer i’w hadolygu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas eleni, sef gwobr lenyddol o £30,000 i ysgrifenwyr dan 39 oed.

Dewisodd Georgia adolygu My Absolute Darling gan Gabriel Tallent, llyfr eithriadol a heriol sydd wedi cael ei alw yn 'nofel y mae’n rhaid ei darllen eleni’.

"Gwnaeth Georgia argraff ar y beirniaid â'i gallu i werthfawrogi naws y nofel ac ysgrifennodd hi gyda hyder soffistigedig sy'n anghyffredin mewn rhywun o'i hoedran hi," meddai Joanna Dudley, Arweinydd Cwricwlwm Saesneg. "Rydyn ni'n falch iawn o glywed bod cylchgrawn ysgrifennu creadigol newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb mewn cyhoeddi ei hadolygiad – byddai’n gyflawniad gwych i Georgia weld ei gwaith mewn print.