Skip to main content
Gweithdy barddoniaeth yn ysbrydoli'r myfyrwyr

Gweithdy barddoniaeth yn ysbrydoli'r myfyrwyr

Students

Mae'r bardd a'r newyddiadurwr arobryn Rae Howells wedi ymweld â champws Gorseinon i gynnal gweithdy creadigol gyda myfyrwyr Saesneg Safon Uwch.

Siaradodd Rae, sy'n gyn fyfyriwr y coleg, am ei gyrfa hyd yma cyn darllen barddoniaeth a gosod her ysgrifennu i'r myfyrwyr yn seiliedig ar stori newyddion a chyfres o ffotograffau.

“Roeddwn i am i'r myfyrwyr feddwl am y ffordd y mae syniadau'n gwrthdaro mewn cerdd i roi dyfnder a chymhlethdod i'r gerdd,” meddai Rae, a enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Cymru 2017 gyda'i cherdd Airlings. “Roedden nhw'n gallu gweu eu syniadau at ei gilydd i greu eu cerdd eu hunain.”

“Roedd yn wych croesawu Rae yn ôl i'r coleg a chafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli wrth glywed am ei gyrfa a'i llwyddiant,” ychwanegodd Joanna Dudley, Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Saesneg. “Roedd gallu llunio cerdd ac yna ei rhannu â gweddill y dosbarth yn brofiad gwych iddyn nhw, a gobeithio y bydd yn rhoi'r hyder iddyn nhw ysgrifennu mwy o farddoniaeth yn y dyfodol. Yn wir, maen nhw eisoes yn trefnu i berfformio ychydig bach o farddoniaeth ar gyfer y Ffair Amrywiaeth sydd i'w chynnal cyn bo hir yn y coleg o ganlyniad uniongyrchol i'r sesiwn hon gyda Rae.”

Llun (o'r chwith i'r dde): Matilda Noot, Rae Howells, Rebecca Jones ac Alex Biffin.
​Ffotograff: Sam Webb

DIWEDD