Skip to main content

Gwybodaeth bwysig am ein nosweithiau agored mis Ionawr 2022

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnig gyfres o nosweithiau agored rhithwir ym mis Ionawr.

Os ydych yn ystyried mynychu, cofrestrwch eich diddordeb o flaen llaw ar ein tudalen we ddynodedig.

Y dyddiadau yw:

  • Nos Lun 10 Ionawr – Gorseinon (rhithwir)
  • Nos Lun 17 Ionawr – Tycoch (rhithwir)
  • Nos Fawrth 18 Ionawr – Llwyn y Bryn (rhithwir)

Mae’r holl nosweithiau agored yn dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm.

Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau pwnc- a chefnogaeth-benodol yn ein hystafelloedd sgwrsio testun ac ymuno â sesiwn Holi + Ateb byw ar Microsoft Teams.