Skip to main content
Gwybodaeth am ein nosweithiau agored rhan-amser Medi 2021 (Campws Tycoch)

Gwybodaeth am ein nosweithiau agored rhan-amser Medi 2021 (Campws Tycoch)

Rydym yn falch iawn o allu agor ein drysau ar 13 ac 14 Medi ar gyfer ein nosweithiau agored rhan-amser (5.30pm-7.30pm).  
 
Mae’r digwyddiadau hyn yn ddelfrydol i’r rhai sydd heb gael cyfweliad dros y ffôn eto ar gyfer cwrs rhan-amser, neu’r rhai nad ydynt yn siŵr beth yw’r cwrs iawn iddynt.

Sylwch, os ydych eisoes wedi gwneud cais ar-lein am gwrs rhan-amser a chael eich derbyn, nid oes angen i chi ddod ond, os hoffech dderbyn eich lle, rhaid i chi gwblhau dolen y broses gofrestru (anfonwyd atoch ar e-bost) cyn 13 Medi i sicrhau’ch lle. 
 
Os ydych yn bwriadu dod i un o’r nosweithiau, mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt ymlaen llaw:

  • Byddwn yn gofyn i chi wisgo mwgwd wyneb tra byddwch yn y Coleg (oni bai eich bod wedi’ch eithrio am resymau meddygol)
  • Byddwn yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol o 2m ar draws y campws. Oherwydd hyn, dylech gyfyngu ar nifer y ffrindiau/teulu y byddwch yn dod â nhw gyda chi i’r nosweithiau agored – os yw’n bosibl dewch ar eich pen eich hun. 

Gallwch gofrestru ar-lein o hyd neu ofyn am gyfweliad ffôn ar gyfer llawer o’n cyrsiau rhan-amser. 
 
Os na allwch ddod i’r nosweithiau agored, peidiwch â phoeni. Bydd cyfleuster ystafell sgwrsio ar ein gwefan o ddydd Mercher 15 Medi i ddydd Gwener 17 Medi (9am - 4.30pm) a byddwn ni’n ddigon parod i ateb eich cwestiynau – ewch i gcs.ac.uk/cy/part-time a chlicio ar y botwm glas ar y gwaelod yn y gornel ar y dde sy’n edrych fel hyn…