Gwybodaeth am ganlyniadau haf 2022


Diweddarwyd 09/08/2022

Dyddiadau canlyniadau cyhoeddedig ar gyfer 2022:

Dydd Iau 18 Awst: Safon Uwch/UG a rhaglenni Lefel 3 CBAC, BTEC, UAL

Dydd Iau 25 Awst: TGAU a rhaglenni Lefel 1/2 CBAC, BTEC, UAL

Bydd canlyniadau’n cael eu dosbarthu i fyfyrwyr ar yr eILP trwy ap engage a gwefan y Coleg o 8.30am.

Os ydych chi’n cael trafferth cyrchu’r eILP, dilynwch y cyfarwyddiadau yma

Er bod dyddiad canlyniadau wedi cael ei gyhoeddi (gweler uchod), gall ddysgwyr dewis casglu eu canlyniadau yn bersonol rhwng (9.30am-2.30pm).

Os buoch yn astudio yng Ngorseinon, casglwch eich canlyniadau o Orseinon. Bydd myfyrwyr a astudiwyd ar gampysau eraill yn gorfod casglu eu canlyniadau o gampws Tycoch. 

Nodyn atgoffa:

  • I gasglu eich canlyniadau, dewch â cherdyn adnabod sy’n nodi’ch enw arno
  • Os na allwch gasglu eich canlyniadau ac yn dymuno i rywun arall eu casglu, rhaid i chi roi awdurdod ysgrifenedig iddynt wneud hynny (nid neges destun). Rhaid iddynt hefyd ddod â cherdyn adnabod gyda nhw ar y diwrnod i gasglu eich canlyniadau.
  • Bydd unrhyw daflenni canlyniadau nad ydynt yn cael eu casglu yn cael eu postio i’r cyfeiriad cartref ar ddiwedd y diwrnod canlyniadau.

Dylai dysgwyr gadw llygad allan am e-bost oddi wrthym a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Dyma ganllawiau CBAC ar sut i ofyn i’r Coleg wneud cais ar eich rhan. Mae’r ddolen hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth ôl-ganlyniadau.

Os nad oes dyddiad canlyniadau wedi’i gyhoeddi, gallwch eu cyrchu ar eILP a byddwch yn derbyn eich tystysgrif drwy’r post maes o law.

Mae llythyr i ddysgwyr oddi wrth Cymwysterau Cymru ac UCAS wedi’i atodi.

Gweler isod ddiweddariadau gan Cymwysterau Cymru ar beth i’w ddisgwyl ynghylch canlyniadau Safon Uwch/UG a TGAU yng Nghymru. Cymwysterau Cymru yw Rheolydd cymwysterau Safon Uwch/UG a TGAU yng Nghymru.

Tags: