Gwybodaeth am noson agored Campws Gorseinon, 6 Mawrth


Diweddarwyd 28/02/2023

Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Gorseinon ddydd Llun 6 Mawrth.

Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. 

Cofrestrwch ymlaen llaw am y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig bydd hyn yn arbed amser pan fyddwch chi’n cyrraedd ond bydd hefyd yn rhoi modd i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw newyddion.

Edrychwch ar ein rhaglen ar gyfer y digwyddiad – gallwch chi weld yr holl feysydd pwnc a meysydd cymorth fydd yn cael eu cynrychioli ar y noson. 

Cofiwch, yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol, cewch ragor o wybodaeth am brentisiaethau, cyllid a chludiant, academïau chwaraeon, cymorth iaith Gymraeg, a llawer mwy.

Dyma fap i unrhyw un nad yw’n gyfarwydd â Champws Gorseinon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein nosweithiau agored cysylltwch â ni yn marketing@gcs.ac.uk

Tags: