Skip to main content
Adeilad coleg / College building

Gwybodaeth am noson agored Campws Tycoch, 13 Mawrth

Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Tycoch ddydd Llun 13 Mawrth

Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.

Cofrestrwch ymlaen llaw am y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig bydd hyn yn arbed amser pan fyddwch chi’n cyrraedd ond bydd hefyd yn rhoi modd i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw newyddion.

Edrychwch ar ein rhaglen ar gyfer y digwyddiad – gallwch chi weld yr holl feysydd pwnc a meysydd cymorth fydd yn cael eu cynrychioli ar y noson. 

Cofiwch – yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau galwedigaethol, gallwch ofyn i ni am brentisiaethau, cyllid a chludiant, academïau chwaraeon, cymorth iaith Gymraeg, a llawer mwy.

Dyma fap i unrhyw un nad yw’n gyfarwydd â Champws Tycoch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein nosweithiau agored cysylltwch â ni yn marketing@gcs.ac.uk