Skip to main content
Success for college swimmers

Llwyddiant i nofwyr o’r coleg

Bu pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar. 

Daeth Dylan Lambropolus, Kyle Job, Oliver Jones a Lewis Quirk yn gyntaf mewn dwy ras nofio gyfnewid – yr un amrywiol a’r un rhydd.  Roeddent yn cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran ‘dros flwyddyn 11’.

“Dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr Aelwyd Coleg Gŵyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth, felly rydym fel coleg yn hapus iawn gyda’u llwyddiant ysgubol.”  Dywedodd Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg. “Y gobaith yw y gallwn barhau gyda chystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau’r Urdd dros y flwyddyn, ac adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi cael dros y blynyddoedd, gan adio nofio at y rhestr!”