Llwyddiant ysgoloriaeth i Simon


Diweddarwyd 16/04/2015

Mae un o gyn-fyfyrwyr Mynediad Coleg Gŵyr Abertawe, Simon Hussellbee, wedi llwyddo yn erbyn cystadleuaeth gryf i sicrhau ysgoloriaeth gan y sefydliad o fri Gray’s Inn Llundain, gan gynnig modd iddo gwblhau ei Gwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar.

Mae Cymdeithas Anrhydeddus Gray's Inn yn un o bedwar o Ysbytai'r Frawdlys (cymdeithasau proffesiynol i fargyfreithwyr a barnwyr) yn y brifddinas. Er mwyn cael eich galw i'r Bar a gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i chi berthyn i un o Ysbytai'r Frawdlys.

Ymunodd Simon â'r cwrs Mynediad i'r Gyfraith yn Nhycoch yn 2011 cyn symud ymlaen i astudio cwrs gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, lle y disgwylir iddo raddio gyda gradd dosbarth cyntaf.

Cyn hynny, bu'n gweithio am 20 mlynedd - yn y sector preifat i ddechrau ac yna yn y gwasanaeth sifil - ond roedd e'n teimlo ei fod e wedi mynd mor bell ag y gallai fynd yn y maes hwnnw heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.

“Wnes i ddim gorffen fy nghyrsiau Safon Uwch felly roedd dychwelyd i fyd addysg ychydig bach yn frawychus i ddechrau,” meddai. "Ond roedd mynd yn ôl i'r meddylfryd hwnnw - o fynd i ddosbarthiadau ac adolygu ar gyfer arholiadau - gyda grŵp cefnogol iawn o diwtoriaid yn gefn i mi, wedi arwain at ganlyniadau da, symud ymlaen i'r brifysgol ac yna dechrau gyrfa newydd sbon."

Nid yw'r Llywodraeth yn cynnig unrhyw gyllid ar hyn o bryd i fyfyrwyr a hoffai ddilyn Cwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar, sy'n gallu costio hyd at £18,000. Felly, roedd Simon wedi wynebu cystadleuaeth frwd wrth geisio ennill yr ysgoloriaeth. Mae cael y cyllid yn golygu bod Simon yn gallu dechrau'r cwrs yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac yna mynd ati i chwilio am leoliad hyfforddi.

“Roedd Simon yn fyfyriwr gwych ac mae tîm addysgu cyrsiau Mynediad yn falch iawn o'i lwyddiant," dywedodd y darlithydd Mandy Wyn Davies. “Mae'n enghraifft wych o sut y gall cwrs Mynediad agor drysau ac arwain at lwybrau gyrfa anhygoel."

Tags: