Skip to main content

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn Ennill Gwobrau Prifysgol Aberystwyth

Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth. 

Eleni, mae’r Brifysgol wedi dyfarnu 68 o Ysgoloriaethau a nifer o Wobrau Teilyngdod i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth ym mis Medi 2018. 

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Athrofa i Enrique Thisby, Ysgoloriaeth Evan Morgan i Emma Burton, Gwobr Teilyngdod i Darson Beeston, a chynnig diamod i Jessica Lewis ar sail eu perfformiadau cryf yn yr arholiadau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cystadleuaeth ysgoloriaethau bob mis Ionawr, gan gynnig gwobrau gwerth rhwng £1,000 a £2,000 y flwyddyn i helpu myfyrwyr gyda’u costau byw. Mae’r Ysgoloriaethau Mynediad yn perthyn i becyn ehangach o ysgoloriaethau a bwrsariaethau a gynigir gan y Brifysgol. Dywedodd  Kylie Evans, Swyddog Gwobrau Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth,

“Dymunwn longyfarch y myfyrwyr a fu’n llwyddiannus yn yr arholiadau eleni ac edrychwn ymlaen i’w croesawu i Aberystwyth ym mis Medi. Mae’r arholiadau mynediad yn cydnabod gallu academaidd ond mae gennym hefyd ystod eang o wobrau eraill i helpu myfyrwyr â’u costau byw. Mewn ambell achos, gall myfyrwyr dderbyn mwy na £15,000 yn ystod eu hastudiaethau.”

Ymhlith y gwobrau eraill y mae:

  • Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd
  • Ysgoloriaethau Adrannol
  • Ysgoloriaethau Chwaraeon
  • Ysgoloriaethau Cerdd
  • Bwrsariaeth prawf-modd Aberystwyth
  • Ysgoloriaethau Astudio trwy’r Gymraeg
  • Bwrsariaethau Gadawyr Gofal a Gofalwyr Ifainc

Dyfarnwyd Gwobr Teilyngdod i Cadi Dafydd o Lan Ffestiniog yn 2017. Meddai, “Roeddwn i a fy nheulu yn hynod o falch pan ddysgais fy mod wedi ennill Gwobr Teilyngdod a hefyd Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg.  Bydd yr arian o fudd mawr i mi wrth helpu gyda chostau llety a phrynu deunyddiau addysgol megis llyfrau.  Roedd mor syml i ymgeisio ac mae’r gwobrau’n werthfawr iawn gan fy mod mewn gwell sefyllfa ariannol yma nag mewn prifysgol arall.”

I gael gwybod mwy am wobrau Prifysgol Aberystwyth, ewch i’n gwefan www.aber.ac.uk/cy/scholarships neu ffoniwch ni ar 01970 622065.