Skip to main content
Myfyrwyr yn cael eu diolch am godi arian

Myfyrwyr yn cael eu diolch am godi arian

Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi codi swm sylweddol o arian dros y ddwy flynedd diwethaf - mae’r £11,000 a godwyd ganddynt wedi cael ei rhoi i Brosiect Addysg Gymunedol Kenya.

Yn ystod bob blwyddyn o’u cyfnod yn y Coleg, trefnwyd y myfyrwyr amrywiaeth o ddigwyddiadau elusennol gan gynnwys walrus dip yn nyfroedd rhewllyd Bae Cawsellt (yng nghanol mis Rhagfyr), dwy daith ddringo i fyny’r Wyddfa a thaith gerdded flinedig 40 milltir trwy goetir Cannock Chase. Yn ogystal â hyn, rhannwyd y myfyrwyr y cyfrifoldeb o redeg stondin yn nerbynfa Campws Gorseinon, lle gwerthwyd lluniaeth.

“Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn er mwyn codi arian i Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Kenya ac mae eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan gymdeithas Madungu – Dwi’n falch iawn ohonynt i gyd,” meddai’r darlithydd a Chydlynydd KCEP, Matthew Rogerson.

Lansiodd y Coleg Prosiect Kenya yn 2003. Gallwch wneud rhodd yma
https://www.totalgiving.co.uk/charity/kenya-community-education-project