Skip to main content

Myfyrwyr yn darganfod cyfleoedd perfformio Cymraeg

Bu criw o fyfyrwyr Cymraeg sy'n dilyn cyrsiau Perfformio yn yng Ngholeg Gwyr Abertawae yn ymweld â thîm talentog sy’n rhedeg cwrs BA Perfformio yng Nghanolfan Berfformio Cymru yn y Gate yng Nghaerdydd - cwrs sy’n cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd ein myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai actio, dawnsio a chanu dan arweiniad Eiry Thomas, Jackie Bristow, Elen Bowman ac Eilir Owen Griffiths.  Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a dysgu, ynghyd a hybu'r Gymraeg yn y maes yma.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Eilir a'r tîm am y cyfle i gael ymweld â'r lle, a gobeithiwn yn daer cael gwneud hwn yn flynyddol er mwyn cynnal ein perthynas a'r Gate,” meddai ein Hyrwyddwr Dwyieithrwdd Anna Davies. “Rydym yn edrych ymlaen i weld eu perfformiad Nadolig o Sweeney Todd ddiwedd y tymor.”