Skip to main content
Myfyrwyr yn trafod gwleidyddiaeth â’r Arglwydd Aberdâr

Myfyrwyr yn trafod gwleidyddiaeth â’r Arglwydd Aberdâr

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe gyfle i gwrdd â’r Arglwydd Aberdâr – Alastair John Lyndhurst Bruce – pan ymwelodd â Champws Gorseinon fel rhan o’r rhaglen Dysgu gyda’r Arglwyddi.

Roedd y dysgwyr, sy’n astudio Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Safon Uwch Y Gyfraith, wedi treulio dros awr gyda’r Arglwydd Aberdâr a chafon nhw gyfle i drafod nifer o bynciau gwleidyddol llosg y dydd ag ef.

“Roedd yn gyfle gwych i staff a myfyrwyr ofyn llawer o gwestiynau am waith Tŷ’r Arglwyddi, sydd yn rhan o’r maes llafur Safon UG presennol” meddai Arweinydd y Cwricwlwm Michelle Knipe, a yrrodd y cwch i’r dŵr pan wnaeth hi gais i’r Coleg gymryd rhan yn y rhaglen.

“Rydyn ni’n byw mewn cyfnod arbennig o ddiddorol ar hyn o bryd, gyda’r dirwedd wleidyddol yn newid pob dydd mae’n debyg, felly mae cael cyfle i gwrdd â’r Arglwydd Aberdâr wyneb yn wyneb ac i drafod rhai o’r materion hyn yn fraint go iawn.”

Roedd yr ymweliad yn rhan o’r rhaglen Dysgu gyda’r Arglwyddi a gydlynir gan Wasanaeth Addysg ac Ymgysylltu Senedd y DU.

Mae’n gyfle unigryw i fyfyrwyr ryngweithio ag aelod o Dŷ’r Arglwyddi, sy’n rhoi cyflwyniad llawn gwybodaeth i fyfyrwyr cyn cymryd eu cwestiynau. Drwy ymgysylltu a rhyngweithio â Barwnes neu Arglwydd, bydd myfyrwyr yn dysgu mwy am rôl hanfodol Tŷ’r Arglwyddi yn Senedd y DU.