Newidiadau i ganlyniadau: beth mae hyn yn ei olygu?


Diweddarwyd 18/08/2020

Yn dilyn y cyhoeddiad ar 17 Awst gan Lywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sydd wedi cael canlyniadau Safon Uwch / Safon UG / Bagloriaeth Cymru (Tystysgrif Her Sgiliau) yr haf hwn gan CBAC yn cael eu gradd wedi’i diweddaru i’r radd roedden ni wedi’i chyflwyno i’r bwrdd arholi (Gradd a Aseswyd gan y Ganolfan neu CAG).

Yn ogystal, nodwch:

  • Ni fydd unrhyw radd yn gostwng
  • Bydd myfyrwyr sydd â gradd Safon Uwch well yn seiliedig ar radd UG, yn dal i dderbyn y radd uwch.

Nid oes angen i chi ymgeisio i wneud hyn, bydd ein systemau’n diweddaru hyn ar yr e-CDU (ap Engage) pan gawn ni’r ffeil gan CBAC. Byddwn mewn cysylltiad â chi trwy neges destun cyn gynted ag y gallwn.

Byddwn yn anfon graddau CAG allan yn ystod y dyddiau nesaf ac yn dilyn hyn cewch raddau swyddogol wedi’u cadarnhau gan CBAC pan gânt eu rhyddhau.

Ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn eich Gradd a Aseswyd gan y Ganolfan, ond gallwch gyflwyno cwyn.

Tags: