Penodi myfyrwyr ffotograffiaeth newydd


Diweddarwyd 05/11/2015

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi dau fyfyriwr ffotograffiaeth newydd sbon i helpu i ddal y gweithgareddau a digwyddiadau niferus sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae Nikkila Thomas, sy’n astudio Safon Uwch mewn ffotograffiaeth, cerddoriaeth a’r gyfraith ar gampws Gorseinon, eisoes wedi sefydlu ei hun fel ffotograffydd llawrydd i’r Llanelli Star ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ffotograffiaeth digwyddiadau a phortreadau. Mae hefyd wedi gweithio gyda grwpiau theatraidd lleol fel ffotograffydd lluniau llonydd i grŵp ffilmiau sydd wrthi’n creu eu comedi eu hunain.

Mae Ben Murphy yn dilyn cwrs Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Ffotograffiaeth ar gampws Llwyn y Bryn. Mae ei arddull bersonol yn seiliedig ar ffotograffiaeth ddogfennol ac mae ganddo brofiad masnachol hefyd. Mae’r cylchgrawn Zero Magazine, sydd â’i swyddfa yn Llundain, wedi cyhoeddi ei luniau o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw ar draws y DU ac mae Ben hefyd wedi arddangos ei waith mewn caffis lleol gan gynnwys La Parmigiana a’r Square Peg, lle cynhaliwyd arddangosfa o’i waith am fis cyfan.

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr ffotograffiaeth y coleg – gan gynnwys Laura Condon a Tom Proudfoot – wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant.

Llun: Ben Murphy

Tags: