Skip to main content
Students

Saith Myfyriwr Disglair ar eu ffordd i Rydgrawnt

Students

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt eleni.

“Rydym ni wrth ein bodd, yn enwedig gan mai nhw yw rhai yn unig o'r garfan o fyfyrwyr fydd yn dechrau eu hastudiaethau pellach ym mhrifysgolion y DU ym mis Medi,” meddai'r Pennaeth Mark Jones. “Mae dros 1000 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi gwneud cais i astudio cyrsiau Addysg Uwch ac mae mwy na 900 ohonyn nhw eisoes wedi cael cynnig. O'r rhain, disgwylir i 200 fynd i Brifysgolion Russell. Mae llwyddo i anfon myfyrwyr i'r brifysgol a cholegau arbenigol yn dyst i waith caled y myfyrwyr eu hunain, a chymorth ac ymrwymiad ein staff addysgu o'r radd flaenaf.”

Y myfyrwyr sy'n mynd i Rydgrawnt (a'u cyn ysgolion) yw:

  • Joshua Thomas (Ysgol Gyfun Penyrheol) - bydd yn astudio'r Gwyddorau Biolegol yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.
  • Tudor Evans (Ysgol Gyfun  Llandeilo Ferwallt) - bydd yn astudio'r Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Iesu, Caergrawnt.
  • Jamie Dougherty (Ysgol Gyfun  Llandeilo Ferwallt) - bydd yn astudio Mathemateg yng Ngholeg Iesu, Caergrawnt.
  • Shannon Phillips (Ysgol Ryngwladol Oasis yn Ankara, Twrci) - bydd yn astudio Ieithyddiaeth yng Ngholeg Downing, Caergrawnt.
  • Ruth Rigden (Ysgol Uwchradd Springfield yn Singapore) - bydd yn astudio Ieithyddiaeth yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt.
  • Ruth Harvey (Ysgol Gyfun  Llandeilo Ferwallt) - bydd yn astudio'r Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt.
  • Hannah Whitehouse (Ysgol Gyfun Penyrheol) - mae hi eisoes wedi cwblhau ei Safonau Uwch, ac mae ganddi le diamod i astudio'r Gyfraith yng Ngholeg Iesu, Caergrawnt.