Skip to main content
Sesiynau blasu am ddim ar gael ar gyfer Gŵyl Ddysgu Abertawe

Sesiynau blasu am ddim ar gael ar gyfer Gŵyl Ddysgu Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gymryd rhan yng Ngŵyl Ddysgu Abertawe 2019 sy’n cael ei chynnal 1-6 Ebrill.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim i gyd-fynd â’r ŵyl – mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwneud printiau (2 Ebrill) a gofaint arian (3 Ebrill) ar Gampws Llwyn y Bryn –
    e-bostiwch lybreception@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth
  • Gwaith cynnal a chadw cerbydau modur sylfaenol ar Gampws Tycoch (2 Ebrill) –
    e-bostiwch mathew.oatway@gcs.ac.uk i gadw lle
  • Amrywiaeth o sesiynau blasu iechyd a gofal (3 Ebrill) gan gynnwys iaith arwyddion, cyflwyniad i gymorth cyntaf, diogelwch bwyd ac ymwybyddiaeth diabetes –
    e-bostiwch lauren.jones@gcs.ac.uk i wybod rhagor

Yn ogystal, bydd stondin gan y Coleg yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant ar ddydd Llun 1 Ebrill a dydd Mawrth 2 Ebrill – dewch i’n gweld i wybod rhagor am ein hamrywiaeth o gyrsiau rhan-amser.