Un deg un o fyfyrwyr yn mynd i Rydgrawnt


Diweddarwyd 01/02/2019

Mae 11 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2019.

Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n bwriadu darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n gobeithio symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.

Y myfyrwyr yw:

  • Erin Ames (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Milfeddygaeth yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt
  • Charlotte Belton (gynt o o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Mathemateg yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt
  • Georgia Charles (gynt o Ysgol Pentrehafod) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Daearyddiaeth yng Ngholeg Caerwrangon, Rhydychen
  • Daniel Duffy (gynt o Ysgol Esgob Fychan) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Hanes yng Ngholeg Hertford, Rhydychen
  • Esma Gunduz (gynt o Ysgol Esgob Gôr) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Addysg, Seicoleg a Dysgu yng Ngholeg Downing, Caergrawnt
  • Joe Mayford (gynt o Ysgol Esgob Gôr) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Saesneg yng Ngholeg St Catharine’s, Caergrawnt
  • Susanna Power (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Mathemateg yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt
  • Elli Rees (gynt o Ysgol Y Strade) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Ngholeg Clare, Caergrawnt
  • Emma Rowley (gynt o Ysgol Bryngwyn) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Ieithyddiaeth yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt
  • Zachary Spackman (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen
  • Haolin ‘Jonathan’ Wu (gynt o River Valley High School) sydd wedi cael cynnig lle i astudio Economeg y Tir yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt

“Yr hyn sy’n arbennig o ddymunol eleni yw’r amrywiaeth o ran ble mae’r myfyrwyr hyn wedi dod a ble maen nhw’n mynd nesa’,” meddai tiwtor arweiniol Rhydgrawnt Felicity Padley. “yma mae gyda ni 11 o fyfyrwyr o naw ysgol wahanol yn gwneud cais i 11 o Golegau gwahanol i astudio naw pwnc gwahanol. Dwi ddim yn gallu cofio blwyddyn arall pan oedd ‘na y fath amrywiaeth eang o ysgolion neu cymaint o bynciau a llwybrau gyrfa amrywiol yn cael eu dewis.”

Mae Rhaglen Rhydgrawnt y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, ymweliadau â phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesiadau pynciau perthnasol.

Yn ogystal, Coleg Gŵyr Abertawe – ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt – yw’r unig Goleg AB neu Ysgol Wladol yng Nghymru i redeg rhaglen HE+. Gyda chefnogaeth Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru, nod HE+ yw datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud eu dewisiadau prifysgol.

“O ran dilyniant i’r brifysgol, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i raddau helaeth yn mynd yn groes i’r tuedd,” dywedodd y Dirprwy Bennaeth Nick Brazil.

“Yn 2018, roedd 1,082 o’n myfyrwyr wedi gwneud cais i’r brifysgol ac mae hyn yn gynnydd o 9% ar y flwyddyn flaenorol, ac o’r rheini, cafodd 942 o fyfyrwyr eu derbyn. Mae’r gyfradd dderbyn o 87% hyd yn oed yn fwy trawiadol pan fyddwch chi’n ei chymharu â chyfradd y DU sef 77%. Rydyn ni hefyd yn wirioneddol falch bod ein myfyrwyr mor llwyddiannus wrth ymgeisio i brifysgolion gorau’r DU - y llynedd, roedd ychydig dros 200 wedi cael lle ym mhrifysgolion nodedig Russell Group.”

DIWEDD

Tags: