Skip to main content
Celebrating 'Welsh Week'

Wythnos Gymraeg

Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas dydd ein nawdd sant - sef Dydd Gŵyl Dewi.

Addurnwyd y stafell gyffredin ar bob campws gyda chennin Pedr ymhobman, balŵns melyn a gwyrdd, a bu baneri fflag Cymru, cennin Pedr a’r genhinen hefyd yn addurno’r lle o byst i byst.  Wrth gwrs fe oedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr hefyd!

Yng Ngorseinon cafwyd perfformiad acwstig, swynol iawn gan gyn-fyfyriwr cerdd Llwyn y Bryn, Sian Richards i gychwyn y dathliadau ar y 1af Fawrth.  Yna codwyd y to gan y grŵp gwerin broffesiynol leol Calan, gyda’u perfformiad egniol a llawn bywyd.  Mae rhaid rhoi clod i Helen, Gloria a Kim yng nghaffi Gorseinon am wisgo yn arbennig o dda yn eu hetiau Cymreig a’u crysau rygbi! 

Bu dathliadau mawr Y Ganolfan Trin Gwallt a Harddwch Broadway.  Cynhaliwyd ‘mannequin challenge’ ar thema Gymreig iawn - peli rygbi, cennin pedr, draig goch ac yn y blaen - siŵr eich bod yn cael y syniad.  Bu Gŵyl Fwyd gyda bwydydd Cymreig yn y dderbynfa, fel bod staff, myfyrwyr a’r cleientiaid yn cael ymdeimlad o Gymreictod ar y diwrnod. 

Cafwyd noson o fwyd ar thema Gymreig yn y Vanilla Pod a bu’r darlithydd arlwyo Stephen Williams yn paratoi pice ar y maen ar gampws Tycoch.

“Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gefnogodd yr wythnos a chael hwyl wrth wneud hynny!  Diolch arbennig i Rhian Noble am drefnu popeth yn Broadway.  Enghraifft o arfer dda mewn Maes Dysgu.”  Meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg.  “Hoffwn hefyd ddiolch i staff llyfrgell Llwyn y Bryn am eu hoff waith caled yn annog myfyrwyr i gystadlu yn ein cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi, ac am addurno’r llyfrgell a chodi ymwybyddiaeth o’r diwrnod ymysg y myfyrwyr.”

Nod ein cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi oedd cael myfyrwyr i ddweud “Beth mae Cymru yn golygu i mi?”, a hynny drwy amrywiaeth o ddulliau mewn perthynas â’u pwnc astudio.  Cawsom ddegau ar ddegau o geisiadau.  Felly diolch i’r hoff fyfyrwyr gystadlodd yn y gystadleuaeth!  Yr enillwyr yw:

1af: Alba Fernandez Hernandez – ESOL Mynediad 2
2il: Jasmine Guise-Ellis – Diploma Ffotograffiaeth Lefel 3
3ydd: Muhesin Aslam – ESOL Mynediad 3
4ydd: dosbarth Celf a Dylunio Lefel 2 Marilyn Jones
=5ed: dosbarth Lefel 3b, Lefel 2b a Lefel 1 Gofal Plant / Rhian Pardoe a Gofal Plant Lefel 1Natalia Bruno