Skip to main content
Mari Lwyd

Y Fari Lwyd yn dod yn fyw yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Cynhaliwyd y dathliad diwylliannol Cymreig o’r 17eg ganrif ar ein campysau yn Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon, wrth i fflach-berfformiad o geffyl y Fari Lwyd wneud ei ffordd drwy’r safleoedd. 

Yn draddodiadol, mae’r Fari Lwyd yn ddathliad Blwyddyn Newydd i nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf ac i groesawu’r gwanwyn. Ar un adeg roedd yn cael ei dathlu ledled Cymru, ond erbyn hyn mae’n draddodiad sy’n gysylltiedig â de a de-ddwyrain y wlad. 

“Rydyn ni wedi bod yn hynod ffodus i groesawu’r Fari Lwyd i’r Coleg. Yn ogystal â bod yn wledd i’r llygad, mae’r perfformiad cyhoeddus wedi ennyn diddordeb pobl yn ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig.” meddai Anna Davies, Rheolwr y Gymraeg. “Dwi’n ddiolchgar i’n Technegydd Celf a Dylunio, David Pitt am drefnu’r digwyddiadau, ac am ei gyfoeth o wybodaeth a chreadigrwydd wrth gynnal gwledd o’r fath”. 

Beth yw traddodiad y Fari Lwyd? 

  • Mae’r Fari Lwyd yn draddodiad sy’n digwydd ganol gaeaf, fel arfer i ddathlu’r Flwyddyn Newydd. 

  • Mae’r Fari Lwyd yn cynnwys penglog ceffyl o bren neu gardfwrdd ar bolyn, sy’n cael ei gario gan rywun, gyda lliain gwyn drosto. Mae’n cael ei addurno â rhubanau a chlychau bach. 

  • Mae’r Fari Lwyd yn rhan o grŵp mewn seremoni sy’n mynd drwy strydoedd y gymuned leol, gan alw heibio i dafarndai a thai lle maen nhw’n dechrau dawnsio a chanu. 

  • Weithiau, mae gên y penglog yn cynnwys sbring fel y gall y gweithredwr ‘frathu’ y bobl sy’n cerdded heibio, gan geisio eu dychryn nhw a chreu hiwmor a hafog.  

Darganfyddwch mwy am weithgareddau Cymraeg.