Skip to main content

Prentisiaeth Gwaith Coed Safle neu Saernïaeth Mainc

Prentisiaeth
Lefel 3
Diploma
Llys Jiwbilî
12-24 months
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs blwyddyn/dwy flynedd hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am ddatblygu eu gyrfa ym maes gwaith coed. Bydd yn rhoi modd i chi weithio fel saer arbenigol yn y diwydiant adeiladu.

Byddwch yn torri, siapio a gosod gosodiadau cymhleth megis waliau a thoeau neu weithgynhyrchu drysau, ffenestri a grisiau. Gallech arbenigo ymhellach mewn meysydd megis dodrefnu siopau, gwaith saer olwynion a saernïaeth. 

Byddwch hefyd yn dysgu sut i weithio’n ddiogel mewn rôl oruchwylio fel rhan o dîm ac ailddodrefnu cartrefi, neu eiddo annomestig.

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gwybodaeth allweddol

Cymhwyster Lefel 2 a chyflogaeth yn y maes.

Unedau gorfodol / unedau dewisol:

  • Iechyd, diogelwch a lles ym maes adeiladu
  • Cyflawni gwaith llorio a gwaith toi cam cyntaf
  • Cyflawni gweithrediadau ail-gam
  • Egwyddorion trefnu, cynllunio a phrisio gwaith adeiladu
  • Cyflawni gwaith toi a grisiau cam cyntaf
  • Cyflawni gwaith gosod drysau dwbl a mowldinau ail-gam
  • Paratoi a defnyddio peiriannau sefydlog a chludadwy

Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio’r Diploma mewn Gwaith Coed Safle neu Saernïaeth Mainc ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori. Mae hyn yn cynnwys profion ymarferol a dewis lluosog. Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau gan dystion ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr.

Sgiliau hanfodol:

  • Cymhwyso rhif Lefel 2
  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth

Ar ôl ennill y cymhwyster hwn a gydnabyddir ym myd diwydiant byddwch yn gallu symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd gwahanol yn y sector adeiladu a gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr safle. Bydd y dyfarniad hwn yn rhoi mynediad i chi i gyrsiau Addysg Uwch yn yr amgylchedd adeiledig neu ddilyniant i rolau rheoli yn y diwydiant adeiladu.

Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni. Bydd yn cymryd rhwng 12 - 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.