Skip to main content

Dyfarniad Cymorth Cyntaf Pediatrig

Rhan-amser
Lefel 3
Tycoch
Two days
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad y cwrs yw rhoi gwybodaeth i’r dysgwr a’i asesu ar ei allu i ddelio ag argyfyngau, sut i gydnabod ac ymateb i gyflyrau meddygol difrifol ac anafiadau difrifol.

Ychwanegwyd Medi 2018

Gwybodaeth allweddol

Os ydych yn nyrs feithrin neu’n warchodwr plant ac mae meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf yn ofyniad cyfreithiol yn eich swydd, neu os ydych yn rhiant neu yn ofalwr sydd am gael tawelwch meddwl yn unig – bydd y cymhwyster Dyfarniad Cymorth Cyntaf Pediatreg dros ddau ddiwrnod yn berffaith i ti.

Y cymhwyster yw’r mwyaf cynhwysfawr o’n cymwysterau cymorth cyntaf pediatreg, ac ar y cwrs byddwch yn dysgu sut i ddelio ag ystod eang o sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn lleoliad blynyddoedd cynnar gan gynnwys: rheoli anafusion anymatebol, CPR pediatrig, tagu, sioc, gwaedu a chlwyfau, llid yr ymennydd, hypothermia a thrawiad gwres.