Skip to main content

Clwb Ffasiwn a Thecstilau (Dyfarniad Celfyddydau Aur)

Rhan-amser
Lefel 3
Llwyn y Bryn
26 weeks
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r Clwb Ffasiwn a Thecstilau’n cynnig cyfle i bobl ifanc ymgysylltu ag amrywiaeth eang o brofiadau ffasiwn a thecstilau i wella ac ychwanegu at y sgiliau sydd eisoes ganddynt.

Mae’r Dyfarniad Celfyddydau Aur yn gymhwyster Lefel 3 sydd ar agor i bobl ifanc 14-25 oed. Mae gan y dyfarniad 16 o bwyntiau ar dariff UCAS.

Dyfarniad Celfyddydau Aur: Tystysgrif Lefel 3 yn y Celfyddydau – Rhif cymhwyster: 500/9666/7

Ychwanegwyd Medi 2018

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn gweithio yn ein Canolfan Ffasiwn a Thecstilau fodern yn Llwyn y Bryn. Gan ddefnyddio arferion traddodiadol a chyfoes bydd dysgwyr yn cynhyrchu canlyniadau cyffrous i ategu eu hastudiaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn ffasiwn a thecstilau. Bydd dysgwyr yn ehangu eu harferion ffasiwn a thecstilau eu hunain trwy amrywiaeth o weithdai gan gynnwys gwneud printiau traddodiadol a digidol, lluniadu ffasiwn, dylunio ffasiwn, torri patrymau a chreu dillad, trin ffabrig a dylunio patrymau arwyneb, steilio a chysyniadau tynnu llun. Bydd y Clwb Ffasiwn a Thecstilau’n arwain at arddangosfa gyhoeddus o waith dysgwyr a bydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â’r gymuned ffasiwn a thecstilau ehangach.