Skip to main content

Defnyddio’r Rhyngrwyd

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau i’r myfyriwr sefydlu a defnyddio dulliau cysylltu priodol i gyrchu’r Rhyngrwyd; gwneud y defnydd gorau o dechnegau ac offer meddalwedd porwr i chwilio am wybodaeth, ei hadalw a’i chyfnewid gan ddefnyddio porwr neu beiriant chwilio cyhoeddus, a gweithio’n ddiogel ar-lein.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn dylai’r myfyriwr allu deall a gwneud defnydd effeithiol o ddull cysylltu a thechnegau ac offer meddalwedd Rhyngrwyd canolradd i chwilio am wybodaeth a’i chyfnewid ar gyfer gweithgareddau sydd weithiau yn anghyffredin neu anghyfarwydd.

Bydd y dysgwr yn gallu:

  • Cysylltu â’r Rhyngrwyd
  • Defnyddio meddalwedd porwr i lywio tudalennau gwe
  • Defnyddio offer porwr i chwilio am wybodaeth o’r Rhyngrwyd
  • Defnyddio meddalwedd porwr i gyfleu gwybodaeth ar-lein
  • Deall yr angen am arferion diogelwch wrth weithio ar-lein

Ychwanegwyd Chwefror 2019

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu am wyth wythnos (tair awr yr wythnos). Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy brawf ymarferol byr.