Skip to main content

Adeiladu’ch Rhwydwaith Cyfrifiadurol Cyntaf

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Tycoch
15 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Dyma’r dealltwriaeth sylfaenol o sut mae rhwydweithiau cyfrifiadurol yn gweithio. Bwriad y cwrs yw nodi’r caledwedd perthnasol sy’n ofynnol i sefydlu rhwydwaith cyfrifiadurol a deall y derminoleg berthnasol sy’n gysylltiedig â rhwydweithio cyfrifiadurol.

Ychwanegwyd Mehefin 2019

Gwybodaeth allweddol

Dim – ond awgrymir bod darpar fyfyrwyr yn gwybod am hanfodion Cynnal a Chadw Cyfrifiadur Personol.

Addysgir y cwrs am 2.5 awr yr wythnos dros 15 wythnos.

Bydd asesiad y cwrs yn seiliedig ar brawf ymarferol byr.

C&G 7540-368 - Lefel 3 Rheoli systemau a rhwydweithiau TGCh 

Dylai myfyrwyr fod â dyfais storio addas ar gyfer eu gwaith.