Skip to main content

Plymwaith a Gwresogi Domestig

Rhan-amser
Lefel 3
C&G
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cymhwyster hwn ar gyfer Prentisiaid neu Hyfforddeion sydd am fod yn Beirianyddion Plymwaith a Gwresogi uwch. Mae’n rhoi cyfle i ymgeiswyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant yn y sector plymwaith. Mae’n profi sgiliau ymarferol a sgiliau seiliedig ar wybodaeth mewn amgylchedd gwaith realistig. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd gennych gymhwyster lefel uwch. Sylwch fod lleoliad gwaith Plymwaith yn hanfodol er mwyn astudio ar y cwrs hwn. (Bydd cwmnïau yn cael eu fetio a’u monitro i sicrhau diogelwch myfyrwyr yn ôl polisi’r Llywodraeth)

Rydym yn cynnig y llwybrau canlynol ar Lefel 3:

1. Llwybr Nwy lle byddwch yn ennill y cymhwyster Lefel 3 sy’n gysylltiedig â Chofrestriad Diogelwch Nwy.

2. Llwybr Ynni Adnewyddadwy lle byddwch yn ennill y cymhwyster Lefel 3 sy’n gysylltiedig â’r sector ynni adnewyddadwy ym maes Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid eich bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 City & Guilds 6189 yn llwyddiannus neu gymhwyster EAL cyfwerth.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy. Mae gwaith ymarferol a gwaith ysgrifenedig yn cael ei asesu’n barhaus.

Asesir rhai unedau yn y gweithle hefyd.

Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Plymwaith Uwch ar Lefel 3.

Rhaid i fyfyrwyr ddarparu’r offer angenrheidiol i’w galluogi i ddechrau/cwblhau gweithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy, mae’r rhain yn cynnwys: Nwyddau ysgrifennu Oferôls Esgidiau diogelwch Sbectol diogelwch Tâp mesur Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael ar gyfer yr eitemau hyn. Cysylltwch â’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr i gael manylion pellach.