Skip to main content

Technoleg Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth
Lefel 2
EAL
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Nod y cwrs prentisiaeth Lefel 2 yw rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn egwyddorion a sgiliau ymarferol peirianneg. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn meysydd megis peirianneg fecanyddol, perianneg drydanol a phrosesau gweithgynhyrchu.

Gwybodaeth allweddol

  • Pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU, a gradd C mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg
  • Rhaid i brentisiaid sicrhau eu cyflogaeth amser llawn eu hunain mewn sector perthnasol cyn gwneud cais am y cwrs
  • Rhaid i ddysgwyr ddod am gyfweliad.

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol yn y meysydd canlynol:

  • Weldio
  • Ffabrigo
  • Gwaith turn a thurnio
  • Melino
  • Drilio
  • Niwmateg
  • Peirianneg lluniadu
  • Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
  • Profi ac arolygu
  • Profion anninistriol.

Mae’n cynnwys amrywiaeth o unedau ymarferol gan roi cyfle i chi ddarganfod y meysydd peirianneg sy’n gweddu orau i chi.

Dilyniant i’r rhaglen amser llawn Lefel 3 neu’r llwybr prentisiaeth Peirianneg ac efallai HNC/HND.

Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol ar gyfer cwblhau’r cwrs:

  • Esgidiau diogelwch (blaen dur)
  • Oferôls gwrthfflam
  • Cyfrifiannell wyddonol
  • Pennau ysgrifennu
  • Pensil
  • Pren mesur
  • Rwber
  • Pad ysgrifennu.