Skip to main content

Diploma mewn Plymwaith a Gwresogi

Rhan-amser
Lefel 2
EAL
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i dargedu at brentisiaid neu hyfforddeion a hoffai fod yn beirianwyr plymwaith a gwresogi cymwysedig. Mae’n rhoi modd i’r ymgeiswyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector plymwaith. Mae’n profi sgiliau ymarferol a sgiliau sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn amgylchedd gwaith realistig. Pan fyddwch wedi cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus byddwch yn gymwysedig i’r lefel isaf a dderbynnir ar hyn o bryd yn y sector. Sylwch ei bod yn hanfodol i fyfyrwyr gael lleoliad gwaith plymwaith ar y cwrs hwn (cwmnïau i gael eu harchwilio a’u monitro i sicrhau diogelwch myfyrwyr yn unol â pholisi’r Llywodraeth). Mae gan bob uned bwyslais ar blymwaith ac mae’n cynnwys y canlynol: - Uned 201 Cyflawni arferion gweithio diogel ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu - Uned 202 Deall sut i gyfathrebu ag eraill ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu - Uned 203 Deall sut i gymhwyso mesurau diogelu’r amgylchedd mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu - Uned 204 Deall sut i gymhwyso egwyddorion gwyddonol mewn peirianneg gwasanaeth mecanyddol - Uned 205 Deall a gwneud gwaith paratoi safle, a thechnegau saernïo pibellau ar gyfer systemau plymwaith a gwresogi domestig - Uned 206 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr oer domestig - Uned 207 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr poeth domestig - Uned 208 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system wres ganolog - Uned 209 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr glaw domestig - Uned 210 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system ddraenio uwchben y ddaear - 019 Cymhwyso arferion gwaith diogel mewn amgylchedd gwaith peirianneg gwasanaethau adeiladu - 020 Gosod a chynnal systemau plymwaith a gwresogi domestig

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld fel rhan o’r broses ddethol. Yn ystod y cyfweliad, ystyrir graddau academaidd a chanlyniadau prawf gallu cyn argymell lefel briodol. Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad cyn dechrau’r cwrs.

Addysgir Unedau 201-210 trwy gyfuniad o weithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy. Gwneir asesiad trwy asesiad parhaus o weithgareddau ymarferol, asesiadau ymarferol ac asesiadau ysgrifenedig. Asesir Unedau 019 ac 020 yn y gweithle.

Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth Plymwaith ar Lefel 3

Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr ddarparu’r offer angenrheidiol er mwyn dechrau/gorffen gweithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy, ac mae’r rhain yn cynnwys: Deunydd ysgrifennu Oferôls Esgidiau diogelwch Sbectol diogelwch Tâp mesur