Digwyddiadau a Nosweithiau Agored Coleg Gŵyr Abertawe
Darganfod sut beth yw bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae ein digwyddiadau a’n nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r athrawon a’r staff, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae'n nosweithiau agored cyrsiau amser llawn wedi'u lleoli ar bob campws.
Gweler isod beth sydd gan bob campws i'w gynnig.
Nosweithiau agored nesaf:
Noson agored ar gyfer cyrsiau rhan-amser - Nos Mercher 6 Gorffennaf*
Nosweithiau cofrestru ar gyfer cyrsiau rhan-amser - Nos Lun 12 a Nos Fawrth 13 Medi*
* 5-7pm, Campws Tycoch
Nid oes gennym fwy o nosweithiau agored ar gyfer cyrsiau llawn amser y flwyddyn academaidd hon.
Anfonwch e-bost atom os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyrsiau, ceisiadau neu unrhyw beth arall, a chadwch olwg am fanylion ein digwyddiadau agored nesaf!
Campws Gorseinon
- Pob cwrs Safon Uwch
- Gweld cyrsiau Safon Uwch
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Busnes
- Y cyfryngau creadigol
- Peirianneg
- Iechyd a gofal plant
- TG
- Cerbydau modur
- Y celfyddydau perfformio
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Chwaraeon
- Cynhyrchu yn y theatr
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Edrychwch ar y recordiad o’n noson agored flaenorol:
Campws Tycoch
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Arlwyo a lletygarwch
- Busnes
- Cerbydau modur
- Chwaraeon
- Dilyniant i AU
- Garddwriaeth
- Gwallt a harddwch
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Iechyd a gofal plant
- Peirianneg
- Peirianneg electronig
- Plymwaith
- Teithio a thwristiaeth
- TG
- Trydanol
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Edrychwch ar y recordiad o’n noson agored flaenorol:
Campws Llwyn y Bryn
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Celf a dylunio (gan gynnwys diploma sylfaen)
- Ffotograffiaeth
- Cerddoriaeth
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Campws Llys Jiwbilî
Cwrs galwedigaethol mewn:
- Adeiladu (Amlsgiliau)
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau prentisiaeth hefyd.
Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Dysgwch ragor am ein cyrsiau lefel uwch mewn busnes, cyfrifeg a rheolaeth (o Lefel 4).