Diploma mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (L2)

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 2
EAL
Tycoch
Maximum 24 months
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n gyffredin i’r holl arferion peirianneg gan gynnwys gofynion iechyd a diogelwch a chyfleu gwybodaeth peirianneg, cynnig dewis helaeth a hyblygrwydd i ddysgwyr i ddangos cymhwysedd yn un neu ragor o amrywiaeth eang o weithgareddau peirianneg a darparu ar gyfer y rhai sy’n rhoi cymorth technegol, gan gynnwys cynllunio prosiect a chyfrannu at welliannau busnes.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i ddysgwyr ddangos cymhwysedd ar gyfer y rhai sy’n gyflogedig mewn rolau swyddi megis peiriannydd trydanol, trydanwr, peirannydd electroneg, technegydd peirianneg cynnal a chadw, gweithiwr peirianneg, peiriannydd morol, peiriannydd mecanyddol, mecanydd/technegydd cerbydau modur, platiwr/ffabrigwr, peiriannydd cynhyrchu, gweithiwr llenfetel a weldiwr. Yn ogystal, gellir ei addysgu mewn amgylchedd coleg realistig dan reolaeth.

Diwygiwyd Ebrill 2017

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Dylai dysgwyr fod yn 16 oed neu hŷn ac yn gyflogedig mewn amgylchedd peirianneg.

Dull Addysgu’r Cwrs

O 14 Hydref 2016, nid oes rhaid i ddysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir fel dewis arall i Sgiliau Hanfodol, fel y manylir o dan y fframwaith prentisiaeth, ddilyn cymhwyster Sgiliau Hanfodol. Fodd bynnag, os yw asesiad WEST y dysgwr yn nodi bod diffygion sgiliau hanfodol gan y dysgwr a fyddai yn atal cynnydd trwy’r fframwaith, bydd rhaid rhoi sylw i hyn.

Mae gofyn i’r dysgwr gwblhau cyfanswm o chwe llwybr asesu, sy’n cynnwys tri llwybr asesu gorfodol, tri llwybr asesu ‘Cefnogi’r Gweithrediad’ ac un llwybr asesu ‘Penodol i’r Swydd’.

Bydd asesiadau’n cael eu cynnal yn y Coleg trwy arsylwi a chasglu tystiolaeth mewn portffolio.

Cyfleoedd Dilyniant

Gall y dysgwr symud ymlaen i’r Fframwaith Prentisiaeth Fodern a’r NVQ Lefel 3 (a asesir yn y gweithle).

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ganolfan gymeradwy i addysgu’r cymwysterau NVQ peirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae cymwysterau proffesiynol gan ein holl aseswyr Peirianneg a Gweithgynhyrchu, maen nhw’n gymwys yn alwedigaethol ac yn brofiadol iawn, ar ôl cael eu cyflogi mewn amgylchedd diwydiannol am nifer o flynyddoedd. Maen nhw wedi gweithio gyda busnesau bach a chanolig a chorfforaethau rhyngwladol yn asesu gweithwyr a nodi unrhyw anghenion hyfforddi.
Achredir yr holl gyrsiau gan EAL (ETMA Awards Ltd) sef prif gorff dyfarnu y DU ar gyfer peirianneg.