Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar gyfer prentisiaid trydanwyr. Mae’n addysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud gwaith y trydanwr. Byddwch yn dysgu sut i drefnu gwaith ac adnabod ac atal problemau. Mae cymwysterau NVQ yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol, y mae’n rhaid i’r dysgwr eu bodloni i fod yn gymwys mewn tasg benodol. Bydd ennill cymwysterau NVQ yn annog gweithiwr i werthfawrogi ei gyfraniad i’r gweithle, a bydd yn datblygu ei sgiliau a’i botensial. Mae’r cymhwyster hwn yn gofyn am dystiolaeth alwedigaethol.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n ymgymryd â fframweithiau prentisiaeth Summit Skills.
Mae’r cymhwyster yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i osod systemau ac offer electrodechnegol mewn adeiladau, strwythurau a’r amgylchedd. Mae'r cymhwyster yn cynnwys unedau gwybodaeth ac unedau perfformiad.
Mae’r unedau’n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys iechyd a diogelwch, systemau technoleg amgylcheddol, goruchwylio a threfnu’r amgylchedd gwaith, cynllunio, paratoi a gosod systemau ac offer trydanol, terfynu a chysylltu dargludyddion, ceblau a chortynnau hyblyg, arolygu, profi, comisiynu a chanfod a chywiro namau. Yn ganolog i’r cymhwyster hwn mae’r Uned Cymhwysedd Galwedigaethol Electrodechnegol sy’n cael ei asesu gan yr AM2.
Rhaid i’r dysgwr gwblhau 17 uned orfodol er mwyn ennill Diploma Lefel 3 ac ennill 104 credyd.
O 14 Hydref 2016, nid oes rhaid i ddysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir fel dewis arall i Sgiliau Hanfodol, fel y manylir o dan y fframwaith prentisiaeth, ddilyn cymhwyster Sgiliau Hanfodol. Fodd bynnag, os yw asesiad WEST y dysgwr yn nodi bod diffygion sgiliau hanfodol gan y dysgwr a fyddai yn atal cynnydd trwy’r fframwaith, bydd rhaid rhoi sylw i hyn.
Diweddarwyd Mai 2017
Gofynion Mynediad
Mae mynediad yn amodol ar broses gyfweld ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddiwallu gofynion y Coleg.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddwy eu hasesu trwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau dewis lluosog ar-lein.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol:
Dewisiadau galwedigaethol
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol (BS 7671 2008)
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesiad Ansawdd Mewnol ac Ardystio Gosodiadau Trydanol
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Arolygu, Profi ac Ardystio Cyfnodol Gosodiadau Trydanol
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dyl;unio a Gwirio Gosodiadau Trydanol
Dewisiadau peirianneg
- BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg
- BTEC HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Drydanol
-
Additional Information
- Mae dillad gwarchod personol (esgidiau ac oferôls) a phecyn offer Gosodiadau Trydanol yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Personal protective clothing (boots and overalls) and basic electrical installation tool kit is essential