HNC Rheolaeth Adeiladu
Trosolwg
Darganfyddwch fyd Rheolaeth Adeiladu ar ein cwrs HNC cynhwysfawr a anelir at unigolion sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd neu sydd am ymuno â’r sector.
Nod y cwrs hwn yw rhoi sylfaen gadarn i chi mwn egwyddorion rheolaeth adeiladu, technoleg adeiladu, cymwysiadau digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu, rheoliadau iechyd a diogelwch, tendrau a chaffael, gwyddoniaeth a defnyddiau ac egwyddorion ynni amgen. Gallwch astudio'r cwrs hwn yn rhan amser neu drwy lwybr prentisiaeth.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori ym maes deinamig rheolaeth adeiladu. Bachwch ar y cyfle hwn i ddatblygu gyrfa lewyrchus a chael effaith barhaol yn yr amgylchedd adeiledig.
Mae'r modiwlau a astudir yn cynnwys:
- Yr amgylchedd adeiladu
- Cais digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu
- Technoleg adeiladu
- Goruchwylio safle a gweithrediadau
- Gofynion cyfreithiol a statudol mewn adeiladu
- Tendr a chaffael
- Egwyddorion ynni amgen
- Prosiect dylunio adeiladu.
Wrth aros am gymeradwyaeth y ganolfan.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Dylai fod gennych gymhwyster Lefel 3 mewn maes perthnasol fel Adeiladu, Peirianneg, neu Fusnes. Neu, byddwn yn ystyried eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu. Mae hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a sgiliau rhifedd da yn hanfodol. Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd neu dystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau bod y cwrs yn addas i chi.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld rheolaeth adeiladu ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn mynd â chi drwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, ac arholiadau ysgrifenedig. Mae meini prawf graddio wedi’u hamlinellu’n glir yn llawlyfr y cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.
Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mercher. ac fe'i cyflwynwyd yn y Ganolfan AU ar Gampws Tycoch.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd cwblhau’r cwrs HNC Rheolaeth Adeiladu yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa. Gallwch ddewis dilyn cymhwyster lefel uwch, fel Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), neu radd mewn Rheolaeth Adeiladu neu faes cysylltiedig. Bydd y cymhwyster HNC yn rhoi sylfaen i chi ymgymryd â rolau fel Rheolwr Safle Cynorthwyol, Cydlynydd Prosiect, neu Amcangyfrifwr. Wrth i chi gael
mwy o brofiad ac arbenigedd, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Rheolwr Adeiladu, Rheolwr Prosiect, neu Reolwr Contractau. Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa foddhaus a llewyrchus mewn Rheolaeth Adeiladu ar ein cwrs HNC.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch ddilyn y cwrs hwn trwy lwybr prentisiaeth. Mae’n cael ei gydnabod ar draws y byd hefyd.
Efallai y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cwrs hwn h.y
- Teithio i ac o'r Coleg neu leoliad
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu a chyfarpar (e.e. ffyn USB)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio