Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r sector Gosodiadau Trydanol yn parhau i ddioddef o fwlch sgiliau ac mae anghen iddo gadw i fyny â’r technolegau sy’n datblygu’n gyflym.
Bwriedir y cymhwyster hwn i’r dysgwyr hynny sydd am weithio fel trydanwyr yn y sector Gosodiadau Trydanol. Nid yw’r cymhwyster hwn ar ei ben ei hun yn gwneud ymgeiswyr yn drydanwyr cymwysedig.
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfaol yn y sector. I ennill Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol rhaid i ddysgwyr gwblhau pob un o’r saith uned orfodol yn llwyddiannus:
- 201/501 – Iechyd a diogelwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
- 301 – Deall egwyddorion a gofynion sylfaenol systemau technoleg amgylcheddol
- 302 – Egwyddorion gwyddor drydanol
- 303 – Gosodiadau trydanol: canfod a chywiro namau
- 304 – Gosodiadau trydanol: arolygu, profi a chomisiynu
- 305 – Dylunio systemau trydanol
- 308 – Ymwybyddiaeth yrfaol mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
Gofynion Mynediad
Mae mynediad yn amodol ar broses gyfweld ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddiwallu gofynion y Coleg.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol, City & Guilds 2365 neu EAL 6724.
Mae cael eich derbyn yn dibynnu ar deilyngdod yr ymgeisydd a’r meini prawf uchod.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddwy eu hasesu trwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau dewis lluosog ar-lein.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau Lefel 3 yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol:
Dewisiadau galwedigaethol
• Prentisiaeth Gosodiadau Trydanol – Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol
• Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol (BS 7671 2008)
• Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesiad Ansawdd Mewnol ac Ardystio Gosodiadau Trydanol
• Dyfarniad Lefel 3 mewn Arolygu, Profi ac Ardystio Cyfnodol Gosodiadau Trydanol
• Dyfarniad Lefel 4 mewn Dylunio a Gwirio Gosodiadau Trydanol
Dewisiadau peirianneg
• BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg
• BTEC HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Drydanol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dillad gwarchod personol (esgidiau ac oferôls) a phecyn offer Gosodiadau Trydanol yn hanfodol.