Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r sector Gosodiadau Trydanol yn parhau i ddioddef o fwlch sgiliau ac mae angen iddo gadw i fyny â’r technolegau sy’n datblygu’n gyflym.
Bwriedir y cymhwyster hwn i’r dysgwyr hynny sydd am weithio fel trydanwyr yn y sector Gosodiadau Trydanol.
Nid yw’r cymhwyster hwn ar ei ben ei hun yn gwneud ymgeiswyr yn drydanwyr cymwysedig.
Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i ymgeiswyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfaol yn y sector Gosodiadau Trydanol.
I ennill Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol rhaid i ddysgwyr gwblhau pob un o’r bum uned orfodol yn llwyddiannus.
201/501 – Iechyd a Diogelwch mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
202 – Egwyddorion Gwyddor Drydanol
203 – Technoleg Gosodiadau Trydanol
204 – Gosod Systemau Gwifro ac Amgaeadau
210 – Deall sut i gyfathrebu ag eraill mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
Gofynion Mynediad
Mae cael eich derbyn yn dibynnu ar eich teilyngdod eich hun ac, yn ddelfrydol, ar ennill pedwar cymhwyster TGAU graddau A-D neu gymwysterau cyfwerth/perthnasol.
Isafswm oedran: 16+ oed.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddwy eu hasesu trwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau dewis lluosog ar-lein.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol:
Dewisiadau galwedigaethol
• City & Guilds 2365 Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol
• Prentisiaeth Gosodiadau Trydanol – Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dillad gwarchod personol (esgidiau ac oferôls) a phecyn offer Gosodiadau Trydanol yn hanfodol.