Skip to main content

Cynnal a Chadw Beiciau - Cwrs Uwch

Rhan-amser
Llys Jiwbilî
6 wythnos
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant ymarferol llawn ac asesiad ym meysydd cydosod, gosod a gwasanaethu a chynnal a chadw parhaus.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithdy
  • Pensetiau, gerau, breciau ymyl, bothau a berynnau
  • Breciau disg a gwaedu hydrolig
  • Gerau both mewnol
  • Triwio olwynion ac adnewyddu adenydd olwynion
  • Adeiladu olwyn.

Gwybodaeth allweddol

Bydd rhaid i chi fod wedi cwblhau cwrs Cynnal a Chadw Beiciau sylfaenol neu fod â dealltwriaeth dda o hanfodion mecaneg beiciau.

Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd ar Gampws Llys Jiwbilî (Fforestfach, SA5 4HB).

Gall y cwrs hwn arwain at achrediad Cytech Dau. Mae asesiadau Cytech yn cael eu cynnal gan gwmni allanol (Activate Learning) ar ddyddiad diweddarach. Siaradwch â thiwtor y cwrs os oes diddordeb gennych yn y llwybr hwn.

Achrediad i Cytech Dau.

Darperir beic ac offer ar gyfer y cwrs.