Trosolwg o’r Cwrs
Bob wythnos, meistrolwch y grefft o baratoi a choginio dwy saig egsotig gan gynnwys bwyd Gwlad Thai a Fiet-nam.
Cynllun addysgu:
• Wythnos 1- Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan eich tiwtor
• Wythnos 2- Sesiwn ymarferol
• Wythnos 3- Sesiwn ymarferol
• Wythnos 4- Sesiwn ymarferol
• Wythnos 5- Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth o goginio.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni chwblheir unrhyw asesiadau ffurfiol.
Cyfleoedd Dilyniant
Dosbarthiadau coginio pellach (anachrededig)
Gwybodaeth Ychwanegol
Cewch restr lawn o gynnwys y cwrs ynghyd â ryseitiau fel rhan o’r wers gyntaf, ac yn ystod y wers honno byddwch hefyd yn cael rhaglen sefydlu’r coleg, briff iechyd a diogelwch ac arddangosiad ymarferol gan diwtor y cwrs.
Gwybodaeth hanfodol - bydd gofyn i chi ddarparu’r canlynol:
• Yr holl gynhwysion (tua £10 yr wythnos)
• Dillad gwarchod (cot neu ffedog wen a het neu rwyd wallt)
Hylendid a diogelwch:
• Ni chaniateir gemwaith yn y gegin
• Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a’i roi mewn rhwyd wallt
• Ni chaniateir ewinedd gel na farnais ewinedd.
• Rhaid gwisgo esgidiau gwastad, caeedig, di-lithr