Skip to main content

Blas ar Asia (Tsieina, Gwlad Thai ac India ac ati)

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bob wythnos, meistrolwch y grefft o baratoi a choginio dwy saig Tsieineaidd, gan gynnwys ryseitiau go iawn. Addysgu arfaethedig:

  • Wythnos 1 - Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan y tiwtor
  • Wythnos 2 - Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 3 - Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 4 - Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 5 - Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth o goginio.

Addysgir yn yr ystafell ddosbarth yn bennaf, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni chwblheir asesiadau ffurfiol.

Dosbarthiadau coginio pellach (heb eu hachredu).

Byddwch yn cael rhestr lawn o gynnwys y cwrs ynghyd â ryseitiau fel rhan o’r wers gyntaf. Yn ystod y wers gyntaf hefyd byddwch yn dilyn rhaglen sefydlu’r Coleg, briff iechyd a diogelwch ac arddangosiad ymarferol gan diwtor y cwrs. Bydd gofyn i chi ddarparu: yr holl gynhwysion (tua £10 yr wythnos); dillad gwarchodol (cot neu ffedog wen a het neu rwyd wallt). Gwybodaeth hylendid a diogelwch: Ni chaniateir gemwaith yn y gegin; rhaid clymu gwallt hir yn ôl yn llwyr a’i roi mewn rhwyd wallt; ni chaniateir ewinedd jel na farnais ewinedd; rhaid gwisgo esgidiau caedig, di-lithr, gwastad.
Asian Cuisine
Cod y cwrs: ZA791 ETB
16/04/2024
Tycoch
10 weeks
Tue
5.30-8.30pm
£175
-