Chwistrellu Lliw Haul (cwrs undydd)

Rhan-amser
N/A
FHT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
One day
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn berffaith i ddechreuwyr neu weithwyr proffesiynol diwydiant sydd am ychwanegu lliw haul at eu gwasanaethau presennol. Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â thriniaethau lliw haul, cynnal iechyd a diogelwch a darparu cyngor ôl-ofal i gleientiaid.

Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys: 

• Iechyd, diogelwch a hylendid
• Paratoi man cleientiaid a man gwaith
• Ymgynghori â chleientiaid a rhoi profion clytiau iddynt
• Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
• Techneg chwistrellu lliw haul fydd yn rhoi modd i chi berfformio triniaeth gyflawn
• Ffurfiant y croen
• Cyngor ôl-ofal

Diweddarwyd Tachwedd 2018

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ac felly mae’n addas i ddechreuwyr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed o leiaf, a bydd gofyn iddynt weithio ar ei gilydd. Ni ddylent ddod yn gwisgo llawer iawn o golur.

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd y tiwtor yn arddangos triniaethau a thechnegau, a bydd dysgwyr wedyn yn ymarfer y technegau a arddangoswyd ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiad ysgrifenedig.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd myfyrwyr yn gallu darparu gwasanaeth chwistrellu lliw haul i’w cleientiaid. Efallai y bydd myfyrwyr am wneud cais i astudio cwrs harddwch rhan-amser neu amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau. Ar y noson cyn y cwrs, rhaid i fyfyrwyr ddiblisgo eu croen. Ar ddiwrnod y cwrs ni ddylech wisgo diaroglydd, colur na lleithydd. Rhaid i fyfyrwyr wisgo dillad tywyll llac a fflip-fflops.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.