Coginio Sylfaenol a Mwy

Rhan-amser
GCS
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn cael ei arwain yn bennaf gan fyfyrwyr, ond mae yna gynllunydd cwrs a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau coginio traddodiadol a sgiliau coginio sylfaenol i’w datblygu a bydd seigiau cyfoes yn cael eu cyflwyno.

Bob wythnos bydd myfyrwyr yn gwylio arddangosiad a byddan nhw’n paratoi, coginio a chyflwyno eu seigiau. Rhoddir arweiniad parhaus trwy gydol y sesiwn.

Bydd myfyrwyr yn cael y cynllunydd cwrs ymlaen llaw yn ogystal â thaflenni ryseitiau. Bydd myfyrwyr yn prynu’r cynhwysion ac yn dod â nhw i’r Coleg. Rhaid gwisgo esgidiau pwrpasol – di-lithr a bysedd traed caeedig - a dewch â ffedog, pen a phapur.

24/6/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth o goginio. Cwrs heb ei achredu.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs yn y dosbarth yn bennaf, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni fydd unrhyw asesiadau ffurfiol.

  • Wythnos 1 - Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan y tiwtor
  • Wythnosau 2-4 - Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 5 - Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs

Cyfleoedd Dilyniant

Cofrestru ar gwrs coginio arall.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cynhwysion ar gyfer pob saig.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.