Skip to main content

Coginio Sylfaenol a Mwy

Rhan-amser
GCS
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn cael ei arwain yn bennaf gan fyfyrwyr, ond mae yna gynllunydd cwrs a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau coginio traddodiadol a sgiliau coginio sylfaenol i’w datblygu a bydd seigiau cyfoes yn cael eu cyflwyno. Bob wythnos bydd myfyrwyr yn gwylio arddangosiad a byddan nhw’n paratoi, coginio a chyflwyno eu seigiau. Rhoddir arweiniad parhaus trwy gydol y sesiwn. Bydd myfyrwyr yn cael y cynllunydd cwrs ymlaen llaw yn ogystal â thaflenni ryseitiau. Bydd myfyrwyr yn prynu’r cynhwysion ac yn dod â nhw i’r Coleg. Rhaid gwisgo esgidiau pwrpasol – di-lithr a bysedd traed caeedig - a dewch â ffedog, pen a phapur. 24/6/22

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth o goginio. Cwrs heb ei achredu.

Addysgir y cwrs yn y dosbarth yn bennaf, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni fydd unrhyw asesiadau ffurfiol.

  • Wythnos 1 - Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan y tiwtor
  • Wythnosau 2-4 - Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 5 - Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs

Cofrestru ar gwrs coginio arall.

Cynhwysion ar gyfer pob saig.