Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fod yn gymwys i gael cyllid trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae CDP yn rhoi modd i chi gael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyrsiau dethol, ar yr amod eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwystra. Edrychwch ar ein tudalen i weld a allwch wneud cais am CDP.

Cwmwl CompTIA

Rhan-amser
Ar-lein
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer Swyddogion Gweinyddol Systemau a Rhwydweithiau a Pheirianwyr Cwmwl.

Mae ardystiad CompTIA Cloud+ yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar gynrychiolwyr i weithredu a chynnal technolegau cwmwl. Mae nifer gynyddol o fusnesau yn addasu eu gweithrediadau TG i weithredu yn yr amgylchedd cwmwl sy’n newid ac yn datblygu’n barhaus. Rhaid i gynrychiolwyr sy’n dymuno gweithio yn yr adran hon o’r diwydiant TG feddu ar y sgiliau gofynnol mewn cyfrifiadura cwmwl a rhithwiroli a gallu deall a darparu seilwaith cwmwl. Mae’r ardystiad CompTIA hwn yn dilysu’r sgiliau a’r wybodaeth hyn ac yn caniatáu mynediad i’r farchnad hon sy’n ehangu’n gyflym.

Cyfrifiadura cwmwl yw’r arfer o ddefnyddio rhwydweithiau o weinyddion o bell a gynhelir ar y Rhyngrwyd i brosesu, storio a rheoli data. Mae poblogrwydd yr arfer cyfrifiadura hwn wedi cynyddu’n aruthrol yn ddiweddar, gyda naw o bob deg menter yn defnyddio rhyw fath o dechnoleg cwmwl. Trwy ennill y cymhwyster CompTIA Cloud+ hwn, gall cynrychiolwyr wella eu rhagolygon gyrfa, gan fod Cloud+ yn dangos arbenigedd cyfrifiadura cwmwl ac ymrwymiad i welliant proffesiynol.

Mae’r cwrs CompTIA Cloud+ hwn yn rhedeg am gyfanswm o dri diwrnod, ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein hyfforddwyr ymroddedig a rhyngweithiol yn addysgu mewn fformat modiwlaidd, gyda nifer o bynciau’n cael eu haddysgu i roi dealltwriaeth gyflawn i’r cynrychiolwyr o gyfrifiadura cwmwl. Mae’r cwrs wedi’i achredu’n llawn gan CompTIA.

03/02/23

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Argymhellir bod gan y cynrychiolwyr o leiaf 24-36 mis o brofiad gwaith mewn rhwydweithio TG, storio, neu weinyddu canolfan ddata. Byddai CompTIA Network+ a/neu Server+ hefyd yn fuddiol ond nid ydynt yn ofynnol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir, over three days.

Mae arholiad yn rhan o’r cwrs hwn. Cewch dystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs a phasio’r arholiad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cyllid CDP ar gael i dalu cost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.