Cyflwyniad i Ffabrigo (Torri, Ffurfio a Chydosod Defnyddiau Peirianneg – unedau 003)

Rhan-amser
Lefel 1
EAL
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer gwaith plât trwm sylfaenol (mwy na 3 mm).

Wrth gynhyrchu’r cydrannau gwaith plât, bydd disgwyl i chi ddefnyddio cyfarpar ac offer priodol i farcio’r defnydd er mwyn cynhyrchu amrywiaeth o nodweddion ac yna defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a pheiriannau syml i gynhyrchu amrywiaeth o siapiau, proffiliau a ffurfiau.

Bydd yn rhoi cyfle i chi gynhyrchu cydosodiadau gwaith plât syml, gan ddefnyddio dyfeisiau sicrhau mecanyddol a weldio tac. Bydd hefyd yn rhoi’r ddealltwriaeth i chi ddefnyddio prosesau torri, ffurfio a chydosod.

Ychwanegwyd Rhagfyr 2020

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Perfformiad i’w asesu a’i dystio trwy sesiynau gweithdy ymarferol. Gwybodaeth i’w hasesu a’i thystio trwy gyfres o gwestiynau gwybodaeth sylfaenol.

Cyfleoedd Dilyniant

Mae’r llwybr asesu EAL hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i brofi’r cymwyseddau sy’n ofynnol a fydd yn paratoi'r dysgwr ar gyfer mynediad i'r sectorau peirianneg neu weithgynhyrchu, gan greu dilyniant rhwng addysg a chyflogaeth. Bydd yn darparu sylfaen ar gyfer datblygu sgiliau ychwanegol a chymwyseddau galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i fyfyrwyr wisgo oferôls ac esgidiau diogelwch.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.