Skip to main content

Cyflwyniad i Graffeg Symudol

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae graffeg symudol i’w gweld ym mhob man - mewn hysbysebion, y cyfryngau cymdeithasol, dilyniannau teitl ar y teledu, fideos cerddoriaeth, mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Wrth i ni dyfu’n ddyfnach i’r oes ddigidol, mae’r galw am graffeg symudol yn parhau i dyfu. Mae graffeg symudol yn gyfrwng gwych ar gyfer cyfleu gwybodaeth, ond ni fydd eich gwaith byth yn sefyll allan oni bai eich bod yn gwybod yn iawn beth rydych chi’n ei wneud!

Trwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau graffeg symudol fydd yn rhoi modd i chi greu gwaith graffeg symudol sy’n edrych yn broffesiynol. Mae’r cwrs hwn wedi’i strwythuro trwy gyfnodau addysgu byr ac yna bydd rhaid i chi gwblhau aseiniad. Yn ogystal â dysgu sut i greu animeiddiadau caboledig, mae hyn hefyd yn sicrhau eich bod yn cael eich annog i roi’r sgiliau hyn ar waith yn annibynnol.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau canlynol ar y cwrs hwn:

  • ‘Keyframing’ sylfaenol
  • Cyflwyniad i ddefnyddio golygydd graff ar gyfer animeiddio
  • Esboniad trylwyr a defnydd o ryngosod ‘keyframe’
  • 12 egwyddor animeiddio
  • Sgiliau cyfansoddiadol hanfodol
  • Sgiliau dylunio hanfodol
  • Sgiliau ‘keyframing’ uwch
  • Cyd-destunoli sgiliau trwy aseiniadau wedi’u cynllunio’n benodol

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen sgiliau/profiad blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, ond bydd unrhyw ddefnydd blaenorol o gymwysiadau/meddalwedd creadigol megis Photoshop neu Illustrator yn fanteisiol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn y dosbarth a’i asesu drwy dasgau seiliedig ar weithdy yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs yn para 10 wythnos am ddwy awr yr wythnos.

Bydd y sgiliau a’r technegau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau megis hysbysebu, marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, ffilm a theledu, animeiddio ac ati. Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i astudio cwrs Gradd Sylfaen mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol sy’n cael ei gynnig ar Gampws Tycoch.