Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fod yn gymwys i gael cyllid trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae CDP yn rhoi modd i chi gael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyrsiau dethol, ar yr amod eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwystra. Edrychwch ar ein tudalen i weld a allwch wneud cais am CDP.
Cynnal a Chadw e-Feiciau
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn i selogion e-feicio a’i nod yw rhoi’r sgiliau i baratoi beiciau’n ddiogel ar gyfer eu reidio ac i atgyweirio’r problemau mwyaf cyffredin yn ystod taith feic.
Ar y cwrs Cynnal a Chadw Sylfaenol hwn, byddwch yn dysgu:
- Gwirio offer cyn taith feic
- Datseimio, glanhau ac iro
- Breciau – addasu’r ceblau a’r padiau a gosod rhai newydd
- Gerau – mynegeio, addasu’r ceblau, addasu’r terfyn
- Trawsyrru – atgyweirio’r gadwyn a gosod un newydd
- Addasu penset
- Olwynion – tyllau, atgyweirio teiars
- Atgyweiriadau brys – delio â’r hyn sy’n gallu mynd o chwith yn ystod taith feic
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes angen gofynion mynediad ffurfiol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd gyda’r hwyr neu dros nifer o ddiwrnodau yn dechrau ym mis Medi 2021.
Cyfleoedd Dilyniant
Os hoffech ennill cymhwyster ffurfiol, gallwch symud ymlaen i gwrs e-feicio Cytech Technegol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir beiciau ac offer yn ystod y cwrs.
Mae cyllid CDP ar gael i dalu am gostau’r cwrs. I wybod rhagor ac i wirio a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudi...
Detailed course information
Where and when can I study?
Start Date: Mon 27 Nov 2023 | Course Code: ZA247 SJP18 | Cost: £0
Start Date: Wed 10 Jan 2024 | Course Code: ZA247 SJP32 | Cost: £0
Start Date: Tue 7 May 2024 | Course Code: ZA247 SJP33 | Cost: £0
Start Date: Mon 8 Jul 2024 | Course Code: ZA247 SJP34 | Cost: £0