Skip to main content

Cynnal a Chadw e-Feiciau Uwch

Rhan-amser
Llys Jiwbilî
3 diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer technegwyr beiciau a delwyr beiciau.

Bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i baratoi, gwasanaethu ac atgyweirio amrywiaeth eang o feiciau trydanol. Mae’n cynnwys yr holl dechnoleg ddiweddaraf ac mae’n rhoi modd i chi weithio’n hyderus mewn amgylchedd gweithdy cymhleth.

Ar y cwrs Cynnal a Chadw e-Feiciau Uwch, byddwch chi’n dysgu:

  • Theori trydanol sylfaenol, deall diagramau gwifro a defnyddio amlfesurydd
  • Defnyddio haearn soldro a sut orau i osod cysylltyddion trydanol
  • Tynnu a gosod moduron a chydrannau trydanol
  • Gweithdrefnau diagnostig a chynnal a chadw ar gyfer systemau ‘deallus’ ac ‘anneallus’
  • Arferion gwaith diogel wrth ddefnyddio batris a chydrannau trydanol
  • Deddfwriaeth ynghylch defnyddio a chynnal a chadw e-feiciau
  • Trawsyrru – atgyweirio ac adnewyddu cadwyn
  • Addasu penset
  • Olwynion – atgyweirio tyllau a theiars
  • Atgyweirio brys – delio â’r hyn sy’n gallu mynd o chwith wrth fynd am reid 

Gwybodaeth allweddol

Does dim cymnwysterau ffurfiol ond dylech chi fod yn gweithio yn y diwydiant.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cwrs cynnal a chadw e-feiciau sylfaenol i’r rhai nad ydynt yn gweithio yn y diwydiant.

Addysgir y cwrs dros dri diwrnod.

Cwrs anachrededig yw hwn. Cewch Dystysgrif Presenoldeb gan Goleg Gŵyr Abertawe.

Rydyn ni hefyd yn rhedeg cymwysterau Cytech Un a Cytech Dau.

Darperir beic ac offer ar gyfer y cwrs.

Mae Cyllid CDP ar gael i dalu am gost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych chi’n gymwys i’w gael, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol