Diploma mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs yn dilyn City & Guilds Diploma Lefel 2 sydd â’r nod o baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant gwasanaeth cerbydau modur ac atgyweirio.

Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn yn darparu dull safonol ar gyfer addysgu ac asesu’r gofynion o ran gwybodaeth a sgiliau. Mae hefyd yn darparu’r gofynion o ran gwybodaeth ar gyfer ei VCQ cysylltiedig ac yn ffurfio’r elfen wybodaeth o fframwaith IMI Prentisiaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio (Cerbydau Ysgafn).

Unedau gorfodol:
Iechyd, Diogelwch a Chadw Tŷ Da yn yr Amgylchedd Modurol
Rolau Swyddi Cynorthwyol yn yr Amgylchedd Gwaith Modurol
Defnyddiau, Ffabrigo, Offer a Dyfeisiau Mesur a ddefnyddir yn yr Amgylchedd Modurol
Unedau arbenigol gorfodol:
Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Arferol
Unedau a Chydrannau Injans Cerbydau Ysgafn
Unedau a Chydrannau Trydanol Cerbydau Ysgafn
Unedau a Chydrannau Siasi Cerbydau Ysgafn
Cydrannau Trawsyrru a Llinell Yriant Cerbydau Ysgafn

Diweddarwyd Chwefror 2020

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Bydd ymgeiswyr yn cael eu cofrestru ar y fframwaith prentisiaeth cysylltiedig neu bydd ganddynt fynediad at brofiad gwaith rheolaidd yn y sector cysylltiedig.

Lle bo angen, efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr sefyll prawf gallu cyn mynediad.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs trwy arddangosiadau ymarferol sy’n cael eu hategu gan dasgau gwaith realistig, lle mae’r pwyslais arnoch chi yn dangos y sgiliau gofynnol. Rhoddir gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob uned trwy ddull addysgu yn yr ystafell ddosbarth, lle cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu dysgwyr gan gynnwys gweithgareddau ymarferol, arholiadau ar-lein dewis lluosog a chymryd rhan mewn gwaith portffolio ac aseiniadau.

Cyfleoedd Dilyniant

Efallai y bydd dysgwyr llwyddiannus sydd hefyd yn dilyn rhaglen brentisiaeth neu wedi sicrhau’r profiad gwaith angenrheidiol yn cael cyfle i symud ymlaen i VRQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r eitemau canlynol yn offer hanfodol ar gyfer cwblhau’r cwrs:

Hanfodion llyfr testun arbenigol Technoleg Cerbydau Modur L1-3 (ISBN = 978 1 4085 15181)

Oferôls ac esgidiau cap toe dur yn cydymffurfio â safonau diogelwch EN345-1.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.