Diploma mewn Plymwaith a Gwresogi

Rhan-amser
Lefel 2
EAL
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i dargedu at brentisiaid neu hyfforddeion a hoffai fod yn beirianwyr plymwaith a gwresogi cymwysedig. Mae’n rhoi modd i’r ymgeiswyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector plymwaith. Mae’n profi sgiliau ymarferol a sgiliau sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn amgylchedd gwaith realistig.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus byddwch yn gymwysedig i’r lefel isaf a dderbynnir ar hyn o bryd yn y sector. Sylwch ei bod yn hanfodol i fyfyrwyr gael lleoliad gwaith plymwaith ar y cwrs hwn (cwmnïau i gael eu harchwilio a’u monitro i sicrhau diogelwch myfyrwyr yn unol â pholisi’r Llywodraeth).

Mae gan bob uned bwyslais ar blymwaith ac mae’n cynnwys y canlynol:
- Uned 201 Cyflawni arferion gweithio diogel ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Uned 202 Deall sut i gyfathrebu ag eraill ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Uned 203 Deall sut i gymhwyso mesurau diogelu’r amgylchedd mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Uned 204 Deall sut i gymhwyso egwyddorion gwyddonol mewn peirianneg gwasanaeth mecanyddol
- Uned 205 Deall a gwneud gwaith paratoi safle, a thechnegau saernïo pibellau ar gyfer systemau plymwaith a gwresogi domestig
- Uned 206 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr oer domestig
- Uned 207 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr poeth domestig
- Uned 208 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system wres ganolog
- Uned 209 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system dŵr glaw domestig
- Uned 210 Deall a chymhwyso technegau gosod a chynnal a chadw system ddraenio uwchben y ddaear
- 019 Cymhwyso arferion gwaith diogel mewn amgylchedd gwaith peirianneg gwasanaethau adeiladu
- 020 Gosod a chynnal systemau plymwaith a gwresogi domestig

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld fel rhan o’r broses ddethol. Yn ystod y cyfweliad, ystyrir graddau academaidd a chanlyniadau prawf gallu cyn argymell lefel briodol. Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad cyn dechrau’r cwrs.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir Unedau 201-210 trwy gyfuniad o weithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy. Gwneir asesiad trwy asesiad parhaus o weithgareddau ymarferol, asesiadau ymarferol ac asesiadau ysgrifenedig.

Asesir Unedau 019 ac 020 yn y gweithle.

Cyfleoedd Dilyniant

Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth Plymwaith ar Lefel 3

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr ddarparu’r offer angenrheidiol er mwyn dechrau/gorffen gweithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy, ac mae’r rhain yn cynnwys:

Deunydd ysgrifennu
Oferôls
Esgidiau diogelwch
Sbectol diogelwch
Tâp mesur

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.