Trosolwg o’r Cwrs
Dyma gyfle i ddysgu’r prosesau datblygu sy’n gysylltiedig ag ysgrifennu cymwysiadau meddalwedd gan ddefnyddio iaith raglennu fodern (C #).
Bydd gan y myfyriwr nodweddiadol ddealltwriaeth dda o sut i weithredu meddalwedd gan ddefnyddio rhaglenni a yrrir gan ddigwyddiadau. Bydd yn gallu mireinio rhaglen a yrrir gan ddigwyddiad i wella ansawdd a gallu profi gweithrediad rhaglen a yrrir gan ddigwyddiad.
Ychwanegwyd Mehefin 2019
Gofynion Mynediad
Dim, ond bydd unrhyw wybodaeth o raglennu yn ddefnyddiol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs am ddwy awr yr wythnos dros 15 wythnos.
Cynhelir asesiadau drwy brawf ymarferol byr.
Cyfleoedd Dilyniant
City & Guilds 7540-039 Lefel 3 Creu rhaglen gyfrifiadurol gwrthrych-gyfeiriadol gan ddefnyddio C#
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai myfyrwyr fod â dyfais storio addas ar gyfer eu gwaith.
Bydd rhaid i fyfyrwyr lawrlwytho Visual Studio 2017 Community Edition (rhad ac am ddim) hefyd.