Estyniadau Blew Amrant Lash FX
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â pharatoi a darparu triniaethau estyniadau blew amrant unigol. Er mwyn dilyn y cwrs hwn bydd rhaid i chi gynnal gweithdrefnau iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol yn eich gwaith.
Gan ddefnyddio cynhyrchion Lash FX, byddwch yn dysgu sut i ddewis a chymhwyso set lawn o estyniadau blew amrant, sut i ddarparu mewnlenwadau a thynnu blew amrant yn ddiogel ac yn effeithiol.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs hwn dros un diwrnod gan roi sylw i agweddau damcaniaethol ac ymarferol.
Bydd asesiad hanner diwrnod ar ôl cwblhau chwe astudiaeth achos.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu darparu blew amrant unigol parhaol ar ôl cwblhau’r chwe astudiaeth achos a’r diwrnod asesu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i fyfyrwyr ddod i sesiwn arweiniad yng Nghanolfan Broadway.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau du caeedig gwastad a thop/tiwnig du plaen.